Copy
View this email in your browser

On The Record - Christmas 2020
Please scroll down for 'Ar Gof a Chadw'

 
Usually around this time we send out a Christmas email. This year we thought we'd try something different and wish you all a Happy Christmas and all the best for 2021 through a Christmas edition of On The RecordThis issue includes a summary of our year and links to our Christmas Quiz, a compilation of all our previous Christmas cards and our newly released Cofnod Annual Data Report.
 
 
Please continue to Submit Records and Data Requests and if you need to contact us please email, phone, or message us on Twitter or Facebook.
What a year

So far 2020 has been very challenging for everyone. The restrictions put in place to keep us safe have curtailed our movement and many of the things we enjoy, like observing and recording wildlife. Nevertheless, we have perhaps focused on things closer to home, possibly spending more time in our gardens and local green spaces. With this in mind it  was fantastic to see so many people take part in the Wales Garden BioBlitz in May. When restrictions eased, I'm sure many of you took the opportunity to get out in the Welsh countryside, but  it was also good to see so many of you continued to record garden birds, moths from garden traps and I'm sure a few of you have dusted off your trail cams too.  
 
Many of our plans had to change this year, making it difficult to share our enthusiasm for wildlife recording face to face. We hope that those of you who took part in our online courses, found inspiration to look out for new and interesting species. For us it was an experiment, which found us involving hundreds of people in subjects from bryophytes to bats. By providing these online courses, we hope to have brought a little bit of expert knowledge into your home, whilst creating content that can be viewed and shared for many years to come through our YouTube channel. 

For the first time ever we held our annual conference online. Although disappointingly we didn't get a chance to meet people in person, we hope to have engaged those who attended with interesting content throughout the day long event. Also for the first time ever we included an evening lecture from the brilliant Liam Olds, who 'zoomed in' from his home in South Wales, demonstrating we can both deliver expert content and reduce our carbon footprint.  For those of you who were unable to attend, much of the Conference content is now on YouTube, so please take a look and share it with others.   

One thing that has continued unheeded during the last year has been the flow of data from the hundreds of wildlife recorders across our region, allowing us to add just over 1.6 million records in 2020. Meaning that as we enter 2021 our database currently stands at  just over 4.25 million records, ensuring that many more records are available to the thousands of people who access them each year. We'd like to thank all of you who have continued to contribute your wildlife records and all of those who help to collate and check them. Together, everyone who contributes to Cofnod, along with our fantastically dedicated staff, continue to make Cofnod a success, even in these difficult times. 

We sincerely wish you a very Happy Christmas and hope that 2021 brings good things to you all.

Stay Safe

Roy Tapping
Cofnod Manager  
Cofnod Annual Data Report
This year Cofnod have produced our first ever Annual Data Report. This gives you an insight into the data we hold and how it has changed throughout time. It was compiled by Aisling May and Catharine Moss, who presented Cofnod Data - It's more exciting that you think! at this year's Cofnod Conference. Click here to download the report, or if you want to get a more 'real-time' view visit the Data we Hold page on our website.

 
Open The Cofnod Annual Data Report
 Cofnod Christmas Quiz 2020
 
As a bit of a festive cheer and to test your brains a little over the Christmas period our #cofnodquiz has a festive hint this month. From Robins to Holly, there are plenty of species associated with Christmas. So why not test your knowledge or share some of the questions after Christmas lunch with family or friends.

Try the Cofnod Christmas Quiz
Cofnod Christmas Card Compilation
We've made some fairly corny Christmas cards over the past 10 years,
to view our Christmas Card Compilation click
here
Wildlife recording videos
 
Cofnod have created a YouTube playlist of videos to help with your Wildlife recording.

There are an amazing range of topics, for example Mammal tracks & signs, birdsong & calls, moths (4 presentations showcasing different groupings), dragonflies and fungi, stoneflies, millipedes, grasses and lichens, plus many more interesting and informative presentations.

Click here to see the compilation of videos. 
 

 
 
...and in other news!

Please look at our website for other items of interest.

Sorry it's too late to enter our Advent Recording Challenge but we'll announce the winner in our next 'On the Record' in early January. Good luck to all those who've registered to enter.

Cofnod Grant for Biological Recording
 
In the past few months we have funded various pieces of recording equipment including a microscope, trail cams, a moth trap and ID guides.

Visit our website to find out more about these projects and details of how you can apply for the grant.
Please remember to email details of any events, surveys and training opportunities you know of which might be of interest to recorders in North Wales: richard.gallon@cofnod.org.uk 
 
Submit Your Records
Do you observe wildlife? Do you make a note of your sightings? Do you pass these on to anyone?

Visit the Submit Records page on our website for more information on different ways to do this. One great way is to use our Online Recording System, within the Members area of the Cofnod website!

We need your records to help build a more complete picture of the status of species in North Wales. Our Data We Hold page shows you what we already hold on our database.

Ar Gof a Chadw - Nadolig 2020
 

Fel rheol yr adeg yma o’r flwyddyn rydym yn anfon e-bost Nadolig. Eleni, roeddem yn meddwl y byddem yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol gan ddymuno Nadolig Llawen a phopeth gorau i chi i gyd ar gyfer 2021 drwy rifyn Nadolig o Ar Gof a Chadw. Mae'r rhifyn yma’n cynnwys crynodeb o'n blwyddyn a dolenni i'n Cwis Nadolig, casgliad o'n holl gardiau Nadolig blaenorol ac Adroddiad Data Blynyddol Cofnod sydd newydd gael ei ryddhau.



 
Cofiwch ddal ati i Gyflwyno Cofnodion a Cheisiadau Data ac os oes arnoch chi angen cysylltu â ni, anfonwch e-bost, ffonio neu anfon neges i ni ar Twitter neu Facebook.
Am flwyddyn

Hyd yma mae 2020 wedi bod yn heriol iawn i bawb. Mae'r cyfyngiadau a roddwyd yn eu lle i'n cadw ni'n ddiogel wedi cyfyngu ar ein symudiadau a llawer o'r pethau rydym yn eu mwynhau, fel arsylwi a chofnodi bywyd gwyllt. Serch hynny, efallai ein bod ni wedi canolbwyntio ar bethau'n nes at gartref, gan dreulio mwy o amser o bosib yn ein gerddi a mannau gwyrdd lleol. Gyda hyn mewn golwg roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn BioBlitz Gerddi Cymru ym mis Mai. Pan laciwyd y cyfyngiadau, rwy'n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi manteisio ar y cyfle i fynd allan i gefn gwlad Cymru, ond roedd hefyd yn dda gweld cymaint ohonoch chi’n parhau i gofnodi adar gardd, gwyfynod o drapiau gardd ac rwy'n siŵr bod ambell un ohonoch chi wedi tynnu’r llwch oddi ar eich camerâu llwybr hefyd.  

Bu'n rhaid i lawer o'n cynlluniau ni newid eleni, gan ei gwneud yn anodd rhannu ein brwdfrydedd dros gofnodi bywyd gwyllt wyneb yn wyneb. Gobeithiwn y bydd y rhai ohonoch chi a gymerodd ran yn ein cyrsiau ar-lein yn cael ysbrydoliaeth i gadw llygad am rywogaethau newydd a diddorol. I ni, arbrawf oedd hwn, gan gynnwys cannoedd o bobl mewn rhoi sylw i bynciau’n amrywio o fryoffytau i ystlumod. Drwy ddarparu'r cyrsiau ar-lein yma, rydym yn gobeithio ein bod wedi dod ag ychydig o wybodaeth arbenigol i'ch cartref chi, a hefyd creu cynnwys y gellir ei weld a'i rannu am flynyddoedd lawer i ddod drwy ein sianel YouTube.

Am y tro cyntaf erioed, cynhaliwyd ein cynhadledd flynyddol ni ar-lein. Er ein bod yn siomedig na chawsom gyfle i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb, rydym yn gobeithio ein bod wedi diddanu pawb oedd yn bresennol gyda chynnwys diddorol drwy gydol y dydd. Hefyd, am y tro cyntaf erioed, fe wnaethom gynnwys darlith gyda'r nos gan y siaradwr gwych Liam Olds, a ymunodd ar 'zoom' o'i gartref yn Ne Cymru, gan ddangos ein bod ni’n gallu cyflwyno cynnwys arbenigol a lleihau ein hôl troed carbon. I'r rheini ohonoch chi oedd yn methu bod yn bresennol, mae llawer o gynnwys y Gynhadledd ar YouTube bellach, felly chwiliwch amdano a'i rannu gydag eraill.    

Un peth sydd wedi parhau'n ddi-dor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw llif data gan y cannoedd o gofnodwyr bywyd gwyllt ar draws ein rhanbarth, gan alluogi i ni ychwanegu ychydig dros 1.6 miliwn o gofnodion yn 2020. Mae hyn yn golygu ein bod yn dechrau 2021 gyda’n cronfa ddata’n cynnwys ychydig dros 4.25 miliwn o gofnodion ar hyn o bryd, gan sicrhau bod llawer mwy o gofnodion ar gael i'r miloedd o bobl sy'n eu defnyddio bob blwyddyn. Hoffem ddiolch i bob un ohonoch chi sydd wedi parhau i gyfrannu eich cofnodion bywyd gwyllt a phawb sy'n helpu i'w casglu a'u gwirio. Gyda'n gilydd, mae pawb sy'n cyfrannu at Cofnod, ynghyd â'n staff hynod ymroddedig, yn parhau i wneud Cofnod yn llwyddiant, hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd yma.

Dymunwn Nadolig Llawen iawn i chi gan obeithio y bydd 2021 yn dod â phethau da i chi i gyd. 

Cadwch yn Ddiogel

Roy Tapping
Rheolwr Cofnod

Adroddiad Data Blynyddol Cofnod
 
Eleni mae Cofnod wedi cynhyrchu ein Hadroddiad Data Blynyddol cyntaf erioed. Mae’n rhoi cipolwg i chi ar y data sydd gennym a sut maent wedi newid gydag amser. Mae wedi cael ei lunio gan Aisling May a Catharine Moss, a roddodd gyflwyniad ar Data Cofnod – Mwy cyffrous na’r disgwyl! yng Nghynhadledd Cofnod eleni. Cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad, neu os ydych chi eisiau cael gwybodaeth 'amser real', ewch i'r dudalen Data sydd Gennym ar ein gwefan. 

Agor Adroddiad Data Blynyddol Cofnod
 Cwis Nadolig Cofnod 2020

I brofi ychydig o hwyl yr ŵyl ac i brofi eich ymennydd hefyd dros gyfnod y Nadolig, mae blas Nadoligaidd ar #cwiscofnod y mis yma. O Robin Goch i Gelyn, mae digon o rywogaethau'n gysylltiedig â'r Nadolig. Felly beth am brofi eich gwybodaeth neu rannu rhai o'r cwestiynau ar ôl cinio Nadolig gyda theulu neu ffrindiau. 

Rhoi cynnig ar Gwis Nadolig Cofnod

Casgliad o Gardiau Nadolig Cofnod 

Rydym wedi gwneud cardiau Nadolig eithaf digri yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, i weld ein Casgliad o Gardiau Nadolig cliciwch yma 

Fideos cofnodi bywyd gwyllt
 
Mae Cofnod wedi creu rhestr chwarae YouTube o fideos i’ch helpu chi i gofnodi Bywyd Gwyllt.

Mae amrywiaeth anhygoel o bynciau i ddewis o’u plith, er enghraifft, olion ac arwyddion mamaliaid, cân a chri adar, gwyfynod (4 cyflwyniad yn dangos gwahanol grwpiau), gweision y neidr a ffyngau, pryfed y cerrig, nadroedd miltroed, glaswelltau a chennau, a llawer mwy o gyflwyniadau diddorol a llawn gwybodaeth.

 
 
...ac mewn newyddion arall!

Edrychwch ar ein gwefan ni am eitemau eraill sydd o ddiddordeb.

Mae'n ddrwg gennym ei bod yn rhy hwyr i chi ymuno â'n Her Cofnodi’r Adfent ond byddwn yn cyhoeddi enw'r enillydd yn 'Ar Gof a Chadw' y tro nesaf, ddechrau mis Ionawr. Pob lwc i bawb sydd wedi cofrestru i gymryd rhan.


Grant Cofnod ar gyfer Cofnodion Biolegol
 
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi cyllido darnau amrywiol o offer cofnodi, gan gynnwys microsgop, camerâu llwybrau, trap gwyfynod a chanllawiau adnabod.

Ewch i’n gwefan tni i gael gwybod mwy am y prosiectau yma a manylion am sut gallwch chi wneud cais am y grant.
Cofiwch anfon fanylion am unrhyw ddigwyddiad, cofnodion a chyfleoedd hyfforddi y gwyddoch amdanynt a all fod o ddiddordeb i gofnodwyr yng Ngogledd Cymru: richard.gallon@cofnod.org.uk
 
Cyflwyno Cofnodion

A ydych yn gwylio bywyd gwyllt? A ydych yn nodi yr hyn a welsoch? A ydych yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i unrhyw un?
 

Ewch i'r dudalen Cyflwyno Cofnodion ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth am ffyrdd gwahanol o wneud hyn. Un ffordd wych yw defnyddio ein System Gofnodi Ar-lein sydd wedi'i hailddatblygu, o fewn adran yr Aelodau ar wefan Cofnod!

Rydym angen eich cofnodion i helpu adeiladu darlun mwy cyflawn o statws y rhywogaethau yng Ngogledd Cymru. Mae ein tudalen Y Data Sydd Gennym yn dangos beth sydd gennym yn ein cronfa ddata yn barod.

Website
Twitter
Facebook
Instagram
YouTube
Email
Copyright © 2020 Cofnod All rights reserved.

Cofnod
Intec, Ffordd y Parc, Parc Menai
Bangor
LL57 4FG






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Cofnod - North Wales Environmental Information Service · Cofnod, Intec, Ffordd y Parc · Parc Menai · Bangor, Gwynedd LL57 4FG · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp